Psalms 1

LLYFR UN

(Salmau 1—41)

Bendith Duw

1Mae'r un sy'n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg
wedi ei fendithio'n fawr;
yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid,
nac yn eistedd gyda'r rhai
sy'n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;
2yr un sydd wrth ei fodd
yn gwneud beth mae'r Arglwydd eisiau,
ac yn myfyrio ar y pethau mae'n eu dysgu
1:2 y pethau mae'n eu dysgu Hebraeg,  Torâ, sef ‛y Gyfraith‛, neu'r cyfarwyddiadau roddodd Duw i Moses.
ddydd a nos.
3Bydd fel coeden wedi ei phlannu wrth ffrydiau o ddŵr,
yn dwyn ffrwyth yn ei thymor,
a'i dail byth yn gwywo. b
Beth bynnag mae'n ei wneud, bydd yn llwyddo.
4Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg!
Byddan nhw fel us
yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.
5Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn.
Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyll
gyda'r dyrfa o rai cyfiawn.
6Mae'r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy'n ei ddilyn,
ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa.
Copyright information for CYM